Y rhai bwrcasodd gwaed y nef,
Sy heb enw ond ei enw ef,
Hwy yn mhob cystudd,
hwy 'mhob gwae,
A gaiff yn unig lawenhau.
Trech fyddy rhai'n na gwawd, na llid,
A'r holl elynion sy'n y byd,
Yn un mewn culni, un mewn poen,
Aelodau'r croeshoeliedig Oen.
O! na ddoi dydd yr India i ben
I wel'd yr hwn fu ar y pren;
A ninnau'n un, yn un â hwy,
Yn canu am ei farwol glwy'.
Boed Prydain Fawr yn fflam o dân
O gariad at ei Phrynwr glân;
A holl ynysoedd pella'r byd
Yn boddi mewn caniadau i gyd.
Amen, Amen - boed môr a thir
Mewn perffaith hedd, mewn cariad pur,
Heb ganddynt bleser o un rhyw
Ond caru'r Iesu mawr a'n Duw.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Rhan I - Duw tyr'd â'th saint o dan y ne' Dowch addewidion dowch yn awr O na ddôi dydd yr India i ben |
Those whom the blood of heaven redeemed,
Who are without a name but his name,
They in every affliction,
they in every woe,
Alone shall get to rejoice.
They shall overcome flesh, and wrath,
And all the enemies that are in the world,
As one in straits, one in pain,
Members of the crucified Lamb.
O that India's day would come to pass
To see him who died on the tree;
And we as one, as one with them,
Singing about his mortal wound.
Let Great Britain as a flame of fire
Of love toward her holy Redeemer;
And all the world's most distant island
Drowning in songs altogether.
Amen, Amen - let sea and land
In perfect peace, in pure love,
Without pleasure of any kind
But loving great Jesus and our God.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|